Peak

Youth Nature Guardians
Gwarcheidiad Natur Ifanc

  • Are you 14—30 and living in or near the Usk Valley?

  • Curious about the River Usk and how communities can look after it?

  • Want to meet others, learn new things and share your ideas?  

Youth Nature Guardians is a three-year creative advocacy programme for young people aged 14-30 who are concerned about the state of the River Usk and want to help shape its future.

Our group of Youth Nature Guardians meets four times a year, working with lead artist Izzy McLeod - a science communicator and participatory arts facilitator whose practice focuses on queer ecology - and other guest artists and practitioners. Together, we’re exploring what the river means to young people in the valley and finding creative ways to campaign for its restoration. 

Youth Nature Guardians is run in partnership with the Llifo project, a collaboration with Action for Conservation, Landed Futures and the Usk Catchment Partnership. This means Youth Nature Guardians are also members of the Usk Catchment Partnership core group, an advisory body that works closely with the Bannau Brycheiniog National Park Authority to restore the River Usk. Young people attend meetings, contribute to projects and share their learning and ideas in creative ways, bringing different perspectives and challenging established ways of thinking about river restoration. 

In 2026, the group is exploring the river through the following guiding questions 

  • Why is the river important?

  • What is the river trying to tell us?

  • What needs to change? 

So far, we’ve explored the relationships that shape the Usk Valley and the human and more-than-human lives that flow through it, building mini coracle boats with guest artist Ella Davies. We’ve also explored how language shapes our relationship with the river, considering how the English and Cymraeg words we use – both in everyday life and in conversations about river restoration - influence how we advocate for it, supported by guest artist Gwenllian Davenport. During a visit to the Grwyne Fawr at Llangenny, we learned respectful foraging techniques, experimented with Tataki Zome (flower bashing), and wrote bilingual pieces of creative writing to express our relationship with the river and our hopes for its future.

Youth Nature Guardians meets for workshops during school holidays, based at Peak’s Old School site in Crickhowell, with trips to river sites. Our next session: Monday 26 October. 
 
To get involved, 14—18 year olds can sign up here with parental permission.

18—30 year olds can email Ellen@peak.cymru for more information. 

This project is supported by the Esmée Fairbairn Foundation through the Llifo partnership between Action for Conservation, Peak Cymru, Landed Futures and the Usk Catchment Partnership. 

  • Wyt ti rhwng 14—30 oed ac yn byw yn Nyffryn Wysg neu gerllaw’r Dyffryn?  

  • Wyt ti’n chwilfrydig am yr Afon Wysg a sut y gall cymunedau lleol ofalu amdani?

  • Wyt ti eisiau cwrdd â phobl newydd, dysgu pethau a rhannu dy syniadau?

Rhaglen tair blynedd o eirioli creadigol yw Gwarcheidiaid Ifanc Natur wedi ei arwain gan bobl ifanc rhwng 14-30 sy’n hidio am gyflwr yr Afon Wysg, sy’n awyddus i helpu diogelu ei dyfodol. 

Mae ein grŵp o Warcheidiaid Ifanc Natur yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn, gan weithio gyda’r artist arweiniol Izzy McLeod – cyfathrebwr gwyddonol a hwylusydd celfyddydau cyfranogol y mae ei hymarfer yn canolbwyntio ar ecoleg cwiar – ynghyd ag artistiaid gwadd ac ymarferwyr eraill. Gyda’n gilydd, rydym yn archwilio’r hyn y mae’r afon yn ei olygu i bobl ifanc yn y dyffryn ac yn canfod ffyrdd creadigol o ymgyrchu dros ei hadfywiad.

Caiff Gwarcheidiaid Ifanc Natur ei drefnu mewn partneriaeth â phroject Llifo, cydweithrediad gydag Action for Conservation, Landed Futures a Phartneriaeth Dalgylch yr Wysg. Mae hyn yn golygu fod Gwarcheidiaid Ifanc Natur hefyd yn aelodau o grŵp craidd Partneriaeth Dalgylch yr Wysg, corff ymgynghorol sy’n gweithio’n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i adfywio’r Afon Wysg. Mae pobl ifanc yn mynychu cyfarfodydd, yn cyfrannu at brojectau ac yn rhannu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu a’u syniadau mewn ffyrdd creadigol, gan gynnig gwahanol safbwyntiau a herio ffyrdd sefydledig o feddwl am adfywiad yr afon.

Yn 2026, mae’r grŵp yn archwilio’r afon drwy’r cwestiynau canlynol

  • Pam fod yr afon yn bwysig?

  • Beth mae’r afon yn ceisio dweud wrthom ni? 

  • Beth sydd angen newid? 

Hyd yn hyn, rydym wedi archwilio’r perthnasau sy’n siapio Dyffryn Wysg a’r bywydau dynol a mwy-na-dynol sy’n llifo drwyddi, gan adeiladu cyryglau bychan gyda’r artist gwadd Ella Davies. Gyda chefnogaeth yr artist gwadd Gwenllian Davenport, rydym hefyd wedi archwilio sut mae iaith yn siapio ein perthynas gyda’r afon, gan ystyried y ffyrdd y mae’r geiriau Cymraeg a Saesneg a ddefnyddiwn – yn ein bywydau bob dydd ac mewn sgyrsiau ynglŷn ag adfywio’r afon – yn dylanwadu ar y ffyrdd yr ydym yn eirioli drosti. Yn ystod ymweliad â’r Grwyne Fawr yn Llangenau, buom yn dysgu technegau fforio’n gyfrifol, yn arbrofi gyda Tataki Zome (malu blodau), ac yn ysgrifennu darnau o sgwennu creadigol dwyieithog i drafod ein perthynas gyda’r afon a’n gobeithion ar gyfer ei dyfodol.

Mae Gwarcheidiaid Ifanc Natur yn cwrdd ar gyfer gweithdai yn ystod gwyliau’r ysgol, yn safle’r Hen Ysgol Peak ger Crug Hywel, gyda theithiau at yr afon. Ein sesiwn nesaf: Dydd Llun 16 Hydref.

I gymryd rhan, mae modd i bobl ifanc 14—18 oed gofrestru fan hyn gyda chaniatâd rhiant.

Os ydych chi rhwng 18—30 oed gallwch ebostio Ellen@peak.cymru am fwy o wybodaeth.

Caiff y rhaglen hon ei chefnogi gan Sefydliad Esmée Fairbairn drwy gyfrwng y bartneriaeth Llifo rhwng Action for Conservation, Peak Cymru, Landed Futures a Phartneriaeth Dalgylch yr Wysg.