About
Gwybodaeth
Peak Cymru is an arts organisation based in the Black Mountains, Southeast Wales. We work with young people (14-30 years), artists and intergenerational communities to respond to our rural context and the pressing social and ecological issues of our time. We create young people’s programmes, host artist residencies and commissions and collaborate with cross-sector partners and intergenerational communities on long-term place-based change.
Our work is deeply rooted in the cultures, practices and places of rural Wales yet is internationally connected to other rural contexts. We believe that: rurally-based communities hold a vital role in shaping alternative futures; that artists imagine and manifest new ways to live; and young people need intergenerational solidarity and support to do the work of the future. We work with artists and cross-disciplinary practitioners whose work offers new approaches and visions at a time of climate collapse, and our programmes offer hopefulness, critical dialogue and creative tools for exploring what we call the radical rural imagination.
Our Vision
A thriving future Wales, shaped by artists, young people and rural intergenerational communities engaged in collective action and creativity.
Sefydliad celfyddydol yw Peak Cymru wedi ei wreiddio yn y Mynydd Du, De Ddwyrain Cymru. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc (14-30 oed), artistiaid, a chymunedau aml-genhedlaeth i ymateb i’n cyd-destun gwledig, a materion cymdeithasol ac ecolegol brys ein hoes. Rydym yn creu rhaglenni i bobl ifanc, yn croesawu artistiaid preswyl a chomisiynau ac yn cydweithio gyda chymunedau aml-genhedlaeth a phartneriaid ar draws y sector er mwyn creu newid hirdymor o fewn ein milltir sgwâr.
Mae ein gwaith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliannau, arferion a llefydd y Gymru wledig, ond rydym hefyd yn credu mewn cynnal sgyrsiau gyda chyd-destunau gwledig eraill yn rhyngwladol. Rydym yn credu: bod gan gymunedau gwledig swyddogaeth hanfodol wrth ffurfio dyfodolau amgen; bod artistiaid yn dychmygu a chreu ffyrdd newydd o fyw; a bod angen i undod a chefnogaeth ddod gan bobl o bob oed er mwyn i bobl ifanc wneud gwaith y dyfodol. Rydym yn gweithio gydag ymarferwyr traws-ddisgyblaethol y mae eu gwaith yn cynnig dulliau a gweledigaethau newydd mewn cyfnod o ddymchweliad amgylcheddol, ac mae ein rhaglenni’n cynnig gobaith, sgyrsiau beirniadol ac offer creadigol er mwyn archwilio’r hyn y galwn yn ddychymyg gwledig radical.
Ein Gweledigaeth
Cymru sy’n ffynnu tua’r dyfodol, wedi ei ffurfio gan artistiaid, pobl ifanc a chymunedau gwledig o bob oed, drwy greu a gweithredu ar y cyd.