Governance & Organisational Structure
Strwythur Llywodraethol a Sefydliadol
Peak Cymru is a charity and a company limited by guarantee. Our work is overseen by a board of trustee directors and co-opted advisors encompassing locally based and international practitioners working in public health, sustainability, creative practice, economics, education, literature and other fields.
Artists are at the heart of our governance, comprising 50% of our board, including participatory, environmental, activist, performance and writing practices. Our board encompasses a range of lived experiences including Global Majority identities, Welsh language speakers and those with rural and working-class backgrounds. Over the next two years, we aim to recruit further trustees with lived experience of disability and care experience, understanding that deepening diversity in our board, in dialogue with wider governance structures, is long-term work.
In 2023, supported by the Paul Hamlyn Foundation, we began implementing a co-director structure towards increased diversity in Peak’s staff team and the wider sector – and to empower future generations of creative leaders to work in rural contexts. Peak’s core strategic and operational work is currently delivered by a three-person co-leadership team, who focus on Young People, Artist Practice and Strategy.
They work alongside freelance artists and cross-disciplinary practitioners who contribute to programmes, and young creatives working in paid development roles. Additional employed staff roles currently include a pilot Alternative Economies / Community Coordinator role developing key regional partnerships, and a Kinship Producer, supporting young people’s activity at Platfform 2, Abergavenny Train Station. Our staff team brings together people with backgrounds as artists, architects, photographers, curators and youth workers to grow an organisational culture based on these perspectives, rather than institutional experience.
Responding to feedback from our growing Young People’s network and building on our inaugural young people’s pre-pandemic panel ‘sPeak’, we’re developing intergenerational governance structures rather than youth-led silos. Young people participate in recruitment, co-design of programmes and steer organisational strategy through seasonal gatherings with staff, board members and local community members.
Recent gatherings have included science-fiction writing and coding workshops, contributing to our collaborative theory of change and new Peak website. We continue to learn from and evolve Peak’s collaborative governance structures and to prioritise people and places often obscured by the dynamics of rural places.
Elusen a chwmni cyfyngedig drwy warant yw Peak Cymru. Caiff ein gwaith ei oruchwylio gan fwrdd o ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr ac ymgynghorwyr cyfetholedig sy’n cynnwys ymarferwyr lleol a rhyngwladol sy’n gweithio ym meysydd iechyd cyhoeddus, cynaliadwyedd, ymarfer creadigol, economeg, addysg, llenyddiaeth a meysydd eraill.
Artistiaid sydd wrth galon ein llywodraethiant, maen nhw’n cynrychioli 50% o’n bwrdd, gan gynnwys arferion cyfranogol, amgylcheddol, ymgyrchol, perfformiadol a sgwennu. Mae ein bwrdd yn cynnwys ystod o brofiadau bywyd gan gynnwys hunaniaethau Mwyafrif Byd-Eang, siaradwyr Cymraeg a’r rheiny sy’n dod o gefndiroedd gwledig a dosbarth gweithiol. Dros y ddwy flynedd nesaf, rydym yn bwriadu recriwtio rhagor o ymddiriedolwyr sydd â phrofiad bywyd o anabledd a gofal, gan ddeall bod dyfnhau amrywiaeth ar ein bwrdd, mewn deialog gyda strwythurau llywodraethol ehangach, yn waith hirdymor.
Yn 2023, gyda chefnogaeth Sefydliad Paul Hamlyn, dechreuom osod ar waith strwythur cyd-gyfarwyddol er mwyn cynyddu amrywiaeth tîm staff Peak a’r sector yn ehangach – ac i ymbweru cenedlaethau’r dyfodol o arweinwyr creadigol i weithio mewn cyd-destunau gwledig. Mae gwaith strategol a gweithrediadol creiddiol Peak ar hyn o bryd yn cael ei gyflwyno gan dîm o 3 unigolyn sy’n cyd-arwain y sefydliad, gan ganolbwyntio ar Bobl Ifanc, Ymarfer Artistig a Strategaeth.
Maen nhw’n gweithio ar y cyd ag artistiaid llawrydd ac ymarferwyr trawsddisgyblaethol sy’n cyfrannu at ein rhaglenni, a phobl ifanc greadigol sy’n gweithio mewn swyddi datblygu taledig. Mae swyddi staff ychwanegol ar hyn o bryd yn cynnwys swydd beilot Economïau Amgen / Cydlynydd Cymunedol er mwyn datblygu partneriaethau rhanbarthol allweddol, a Chynhyrchydd Kinship, sy’n cefnogi gweithgarwch pobl ifanc ar Blatfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni. Mae staff Peak yn cynnwys artistiaid, penseiri, ffotograffwyr, curaduron a gweithwyr ieuenctid, gan esgor ar ddiwylliant gwaith sy’n seiliedig ar y safbwyntiau hyn, yn hytrach na dibynnu ar brofiad sefydliadol.
Mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwn gan ein rhwydwaith o Bobl Ifanc sy’n tyfu o hyd, ac wrth adeiladu ar ein panel o bobl ifanc ‘sPeak’, a sefydlwyd cyn y pandemig, rydym wrthi’n datblygu strwythurau llywodraethiant sy’n cynnwys pobl o bob cenhedlaeth wedi’u harwain gan bobl ifanc yn hytrach na seilos. Mae Pobl Ifanc yn rhan o’n prosesau recriwtio, yn cyd-gynllunio ein rhaglenni ac yn llywio’r strategaeth sefydliadol pan fyddwn yn cwrdd yn dymhorol fel staff, aelodau bwrdd ac aelodau o’r gymuned leol.
Mae ein cyrddau diweddar wedi cynnwys gweithdai sgwennu ffuglen gwyddonias a chodio, cyfraniadau at ein theori o newid casglebol, a gwefan newydd Peak. Rydym yn parhau i ddysgu oddi wrth ac esblygu strwythurau llywodraethiant casglebol Peak a blaenoriaethau pobl a llefydd sy’n aml yn cael eu anghofio o fewn deinameg llefydd gwledig.