Peak

Community Groups & Partnerships
Grwpiau Cymunedol a Phartneriaethau

Working out of The Old School since 1990, Peak is committed to developing and sustaining partnerships that support local communities. We believe in the power of place-based change through long-term working relationships, and we strive to find opportunities to grow our network of local partnerships.   

We currently host and collaborate with the following regular community groups at The Old School: 

  • Our Plot

  • Tai Chi with Dek Leverton 

  • Crafters’ Cafe with the Fathom Trust  

  • Pottery for Wellbeing with South Powys Mind  

Peak is committed to sustaining The Old School as a shared resource. With a large, light main studio space (approx. 90m squared), accessible toilet and modern kitchen, we offer regular and one-off hires at commercial and charitable rates. Income from hires helps us care for the building and support Peak’s wider community work.

 Community Hires

Facilities 

  • WiFi, heating, access to two toilets (one of which is accessible) 

  • Use of a well-equipped modern kitchen including crockery, glasses and cutlery for up to 40 people  

  • Tables and chairs are available, as well as an LCD screen for presentations  

  • Limited parking of up to 4 cars is available on site with free parking available nearby 

Pricing 

One-off hires: 

  • £180/day for commercial organisations, companies or individuals 

  • £120/day for registered charities, not-for-profit groups and local residents  

The space is bookable in half-day (up to 4 hours) or a full-day (up to 8 hours) slots, with hire available between 9am and 9pm.  

Weekend rates available on request. Party bookings will incur an additional cleaning fee. Please note that we cannot host events with very loud music due to having neighbours close by.  

Regular bookings: 

Shorter booking slots are possible for long-term, regular bookings, and we welcome discussion with interested groups to find rates that work for everyone.   

For more information, contact polly@peak.cymru 

Gan weithio o’r Hen Ysgol ers 1990, mae Peak yn ymrwymo i ddatblygu a chynnal partneriaethau sy’n cefnogi cymunedau lleol. Rydym yn credu fod pŵer mewn creu newid lleoledig drwy gynnal perthnasau gwaith hirdymor, ac rydym yn gweithio’n galed i ganfod cyfleoedd i ddatblygu ein rhwydwaith o bartneriaethau lleol.

Rydym ar hyn o bryd yn cynnal a chydweithio gyda’r grwpiau cymunedol rheolaidd hyn yn Yr Hen Ysgol:

  • Our Plot

  • Tai Chi gyda Dek Leverton  

  • Caffi’r Crefftwyr gyda’r Fathom Trust  

  • Crochenwaith Llesol gyda Mind De Cymru

Mae Peak yn ymrwymo i gynnal Yr Hen Ysgol fel adnodd i’w rannu. Gyda’r prif ofod stiwdio mawr, agored (oddeutu 90m sgwâr), tŷ bach hygyrch a chegin gyfoes, mae’r gofod ar gael i’w logi’n rheolaidd neu at bwrpas achlysur arbennig ar gyfraddau masnachol ac elusennol. Mae’r incwm a gawn o logi’r gofod yn ein helpu i ofalu am yr adeilad a chefnogi gwaith cymunedol ehangach Peak.

 Llogi Cymunedol

Adnoddau

  • WiFi, gwresogi, mynediad at ddau dŷ bach (y mae un ohonynt yn hygyrch) 

  • Defnydd o’r gegin gyfoes gyda digonedd o gyfarpar gan gynnwys llestri, gwydrau a chyllyll a ffyrc i hyd at 40 o bobl

  • Mae byrddau a chadeiriau ar gael, yn ogystal â sgrîn LCD ar gyfer cyflwyniadau

  • Mae parcio cyfyngedig ar gyfer hyd at 4 o geir ar y safle gyda pharcio am ddim gerllaw

Prisiau 

Llogi achlysurol:

  • £180/ y diwrnod ar gyfer sefydliadau masnachol, cwmnïau neu unigolion

  • £120/y diwrnod ar gyfer elusennau cofrestredig, grwpiau nid-er-elw a phobl leol  

Gellir bwcio’r gofod am slotiau hanner diwrnod (hyd at 4 awr) neu ddiwrnod llawn (hyd at 8 awr), gyda llogi’n bosib rhwng 9yb a 9yh.

Mae cyfraddau penwythnos ar gael ar gais. Bydd ffî glanhau yn cael ei ychwanegu ar gyfer partïon. Noder nad oes modd i ni gynnal digwyddiadau gyda cherddoriaeth swnllyd iawn am fod cymodogion gerllaw.   

Llogi rheolaidd:

Mae’n bosib llogi slotiau amser byrrach os ydych chi’n llogi’n rheolaidd dros yr hirdymor, ac rydym yn croesawu trafodaeth gyda grwpiau sydd â diddordeb er mwyn dod o hyd i gost sy’n gweithio i bawb.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â polly@peak.cymru