Peak

Rural Stiwdio

Rural Stiwdio is Peak’s programme for young people aged 14—18. During school holidays, and on the third Wednesday of every month, we host free, hands-on workshops where young people can explore the different ways artists imagine, make and respond to the world around them.  

Recent workshops have experimented with writing, printmaking, photography, zine-making, costume, sculpture, sound and performance. We’ve explored ways to connect more deeply with the places we live; mapped rivers and stories; created responses to the ecological crisis; built machines that interrupt the endless ‘doomscroll’ and made playful inventions for moments of shared celebration. 

We work with youth and community partners across our region, including Credu Young Carers, Brecon Youth Club and Blaenau Gwent Youth Service, to deliver artist-led workshops for young people. If you’re interested in partnering with us, get in touch with ellen@peak.cymru.  

Check out our 2026 Rural Stiwdio programme and sign up here. 

Rural Stiwdio has been supported by the Arts Council of Wales, Paul Hamlyn Foundation and Ashley Family Foundation.  

Rhaglen Peak i bobl ifanc rhwng 14—18 oed yw Rural Stiwdio. Yn ystod gwyliau’r ysgol, ac ar drydydd Dydd Mercher pob mis, rydym yn cynnal gweithdai rhad ac am ddim, ymarferol er mwyn i bobl ifanc allu archwilio’r gwahanol ffyrdd y mae artistiaid yn dychmygu, creu ac ymateb i’r byd o’u hamgylch.  

Mae gweithdai diweddar wedi arbrofi gyda sgwennu, argraffu, ffotograffiaeth, creu zines, gwisgoedd, cerflunio, sain a pherfformio. Rydym wedi archwilio ffyrdd o greu cysylltiadau dyfnach gyda’n hardaloedd lleol; gan fapio afonydd a straeon; creu ymatebion i’r argyfwng amgylcheddol; adeiladu peiriannau sy’n tarfu ar y ‘doomscroll’ diddiwedd, a chreu dyfeisiadau chwareus sy’n creu amser i’n galluogi i ddathlu ar y cyd.

Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid cymunedol a phobl ifanc ar draws ein rhanbarth, gan gynnwys Gofalwyr Ifanc Credu, Clwb Ieuenctid Aberhonddu a Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, er mwyn cyflwyno gweithdai wedi eu harwain gan artistiaid ar gyfer pobl ifanc. Os oes gennych ddiddordeb i fod yn bartner, cysylltwch â ellen@peak.cymru.  

Cymerwch olwg ar ein rhaglen Rural Stiwdio ar gyfer 2026 a chofrestrwch fan hyn.

Cefnogir Rural Stiwdio gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn a Sefydliad y Teulu Ashley.

Projects
Prosiectau