Peak

Vivian Ross-Smith

In spring 2026, artist Vivian Ross-Smith spent time in the Usk Valley, developing Rural Stiwdio workshops for young people and taking part in a short research residency.  

We invited Vivian to draw on threads within her practice — place, community, materials, queerness, ecology, land and the body — and develop new research and thinking rooted along the banks of the River Usk and across the wider Usk Valley. 

This invitation is framed through Peak’s Living Usk programme — an ongoing creative exploration of the River Usk and the agricultural, rural and post-industrial communities it connects. Shaped by young people’s questions and urgencies, the work sits within a wider field of place-based research, supporting critical dialogue and creative tools for exploring the radical rural imagination.   

Biography 

Artist Vivian Ross-Smith (she/they) works between care, ecology and tactility. Her site-specific performances, textiles and objects draw on queering practices and reflect their islander identity. Often, Vivian uses her practice to build community around an idea or place, seeking collaboration with other artists, rural communities, materials, and landscape.   

Born in Edinburgh and raised in Fair Isle, Shetland, Vivian holds a BA(Hons) from Gray’s School of Art (2013) and a Masters with Distinction from Glasgow School of Art (2020). Vivian works as part of the South Wales performance collective, SGÔR. 

https://www.vivianrosssmith.com/ 
https://www.instagram.com/vrosssmith/ 

Yn ystod Gwanwyn 2026, bu’r artist Vivian Ross-Smith yn treulio amser yn Nyffryn Wysg, yn datblygu gweithdai Rural Stiwdio ar gyfer pobl ifanc ac yn ymgymryd â phwt o breswyliad ymchwil.

Gwahoddom Vivian i dynnu edefynnau ei hymarfer artistig ynghyd — lle, cymuned, tecstilau, cwiaredd, ecoleg, y tir a’r corff — a datblygu ymchwil a syniadau newydd wedi eu gwreiddio ar hyd glannau’r Afon Wysg a’r dyffryn yn ehangach.

Dyma wahoddiad a ddeilliodd o raglen Mae’r afon Wysg yn fyw Peak — archwiliad creadigol parhaus o’r Afon Wysg a’r cymunedau amaethyddol, gwledig ac ôl-ddiwydiannol y mae hi’n cysylltu â nhw. Wedi ei ffurfio gan y cwestiynau a’r materion brys sy’n bwysig i bobl ifanc, mae’r gwaith yn bodoli o fewn cyd-destun ehangach ein hymchwil safle-benodol, gan gefnogi deialog beirniadol a deunyddiau creadigol er mwyn archwilio’r dychymyg gwledig radical. 

Bywgraffiad

Mae’r artist Vivian Ross-Smith (hi/nhw) yn gweithio rhwng gofal, ecoleg a theimladwyedd. Mae ei pherfformiadau safle-benodol, ei thecstilau a’i gwrthrychau yn dwyn ysbrydoliaeth o arferion cwiar ac yn adlewyrchiad o’u hunaniaeth a’u magwraeth ar ynys. Mae Vivian yn gyson yn defnyddio ei harfer er mwyn adeiladu cymuned o gylch syniad neu le, gan gydweithio gydag artistiaid eraill, cymunedau gwledig, deunyddiau a thirwedd.

Wedi ei geni yng Nghaeredin a’i magu ar Fair Isle, Shetland, graddiodd Vivian gyda BA(Anrh) o Ysgol Gelf Gray’s (2013) ac mae ganddi Radd Meistr gydag Anrhydedd o Ysgol Gelf Glasgow (2020). Mae Vivian yn gweithio fel rhan o gasgleb perfformio SGÔR yn Ne Cymru.

https://www.vivianrosssmith.com/ 
https://www.instagram.com/vrosssmith/