Lowri Hedd Vaughan
Across the summer and autumn of 2026, artist Lowri Hedd Vaughan is spending time in the Usk Valley to take part in a short research residency and develop Rural Stiwdio workshops for young people.
A Welsh-speaking writer, artist and regenerative practitioner based in North-West Wales, Lowri is developing new research around hydro-feminist embodiment and thrutopian ways of imagining the future. Her guiding questions include: How do the waters want to be? How might we better be with them?
This invitation is framed through Peak’s Living Usk programme — an ongoing creative exploration of the River Usk and the agricultural, rural and post-industrial communities it connects. Shaped by young people’s questions and urgencies, the work sits within a wider field of place-based research, supporting critical dialogue and creative tools for exploring the radical rural imagination.
Biography
Lowri Hedd Vaughan is a Welsh-speaking writer, artist and regenerative practitioner based in North-West Wales. Her creative practice spans poetry, sound and visual arts. Through her community work and arts practice, she creates space for people to connect with their bioregions and to deep time, journeying together towards liveable futures.
She was a member of Literature Wales' Representing Wales 2025 cohort, collaborated with Artes Mundi 2025 finalist Jumana Emil Abboud, and performed at Hay Festival 2026. Her debut poetry collection will be published by Cyhoeddiadau'r Stamp in 2027.
Yn ystod yr haf a’r hydref, mae’r artist Lowri Hedd Vaughan yn treulio amser yn Nyffryn Wysg ar breswyliad ymchwil byr, gan ddatblygu gweithdai Rural Stiwdio ar gyfer pobl ifanc.
Ymarferydd adfywiol yw Lowri sy’n byw yng Ngogledd Orllewin Cymru ac yn sgwennu’n Gymraeg. Mae hi wrthi’n datblygu ymchwil newydd yn ymwneud ag ymgnawdoliad hydro-ffeministaidd a ffyrdd ‘thrutopian’ o gyd-ddychmygu’r dyfodol. Mae ei chwestiynau trosgynnol yn cynnwys: Sut mae’r dyfroedd eisiau bodoli? Sut allwn ni fel bodau dynol fod yn gymdogion gwell i’r afonydd?
Caiff y gwahoddiad ei fframio fel rhan o raglen Mae’r afon Wysg yn fyw Peak — archwiliad creadigol parhaus o’r Afon Wysg a’r cymunedau amaethyddol, gwledig ac ôl-ddiwydiannol y mae hi’n cysylltu â nhw. Wedi ei ffurfio gan y cwestiynau a’r materion brys sydd o bwys i bobl ifanc, mae’r gwaith yn bodoli o fewn cyd-destun ymchwil ehangach sy’n canolbwyntio ar lefydd penodol, gan gefnogi deialog beirniadol a’r defnydd o offer creadigol er mwyn archwilio’r dychymyg gwledig radical.
Bywgraffiad
Cymraes Gymraeg, artist ac ymarferydd adfywiol sy’n byw yng Ngogledd Orllewin Cymru yw Lowri Hedd Vaughan. Mae ei harfer creadigol yn rhychwantu barddoniaeth, sain a chelfyddydau gweledol. Drwy gyfrwng ei gwaith cymunedol ac arfer celfyddydol, mae hi’n creu gofodau i bobl gysylltu gyda’u biotiriogaethau a chydag amser dwfn, gan deithio tuag at ddyfodolau y gellir byw ynddynt.
Roedd hi’n aelod o griw Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yn 2025, mae wedi cydweithio gyda’r artist Jumana Emil Abboud oedd yn rownd derfynol Artes Mundi 2025, a bu Lowri’n perfformio yng Ngŵyl y Gelli 2026. Bydd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth yn cael ei gyhoeddi gyda Cyhoeddiadau’r Stamp yn 2027.