Iman Datoo
In summer 2026, artist and researcher Iman Datoo is spending time in the Usk Valley to develop Rural Stiwdio workshops and take part in a short research residency.
Iman’s initial exploration of the River Usk follows the material histories of ceramics found along its course, tracing the river’s changing economic role and its entanglements with labour, extraction, settlement, migration and geology.
This invitation is framed through Peak’s Living Usk programme — an ongoing creative exploration of the River Usk and the agricultural, rural and post-industrial communities it connects. Shaped by young people’s questions and urgencies, the work sits within a wider field of place-based research, supporting critical dialogue and creative tools for exploring the radical rural imagination.
Biography
Iman Datoo is an artist and researcher based in Cornwall. Her practice investigates the world-making capacities of plants, soils and people: how we move, how we behave and how we make place.
Iman is part of the Two Together Residency with Porthmeor Studios and the Freelands Foundation. She is Head of Research and Community at Radical Ecology and is a LAHP-funded, practice-led PhD candidate between UCL’s Slade School of Fine Art and the Bartlett School of Architecture.
Her debut solo exhibition Kinnomics opened at the Agnes Etherington Arts Centre in 2025 and she has recently shown work at Gray’s Wharf Gallery (Cornwall, 2024), Travelling Gallery (Edinburgh Arts Festival, 2025) and Southcombe Barn (Dartmoor, 2025, 2024).
Yn ystod haf 2026, bydd yr artist a’r ymchwilydd Iman Datoo yn treulio amser yn Nyffryn Wysg yn datblygu gweithdai Rural Stiwdio ac yn cymryd rhan mewn pwt o breswyliad ymchwil.
Man cychwyn archwiliad Iman o’r Afon Wysg yw mynd ar ôl hanesion materol y serameg sydd wedi ei ganfod ar hyd ei chwrs, gan olrhain swyddogaeth economaidd newidiol yr afon a’i hymgymliadau gyda llafur, echdynnu, setlo, mudo a daeareg.
Dyma wahoddiad a ddeilliodd o raglen Mae’r afon Wysg yn fyw Peak — archwiliad creadigol parhaus o’r Afon Wysg a’r cymunedau amaethyddol, gwledig ac ôl-ddiwydiannol y mae hi’n cysylltu â nhw. Wedi ei ffurfio gan y cwestiynau a’r materion brys sydd o bwys i bobl ifanc, mae’r gwaith yn bodoli o fewn cyd-destun ymchwil ehangach sy’n canolbwyntio ar lefydd penodol, gan gefnogi deialog beirniadol a’r defnydd o offer creadigol er mwyn archwilio’r dychymyg gwledig radical.
Bywgraffiad
Artist ac ymchwilydd sy’n byw yng Nghernyw yw Iman Datoo. Mae ei hymarfer yn archwilio galluoedd planhigion, priddoedd a phobl i adeiladu bydoedd: y ffyrdd yr ydym yn symud, buhafio, a chreu lle.
Mae Iman yn rhan o Breswyliad Two Together gyda Porthmeor Studios a’r Freelands Foundation. Mae’n bennaeth Ymchwil a Chymuned gyda Radical Ecology ac yn ymgeisydd PhD trwy ymarfer rhwng Ysgol Gelf Gain y Slade, UCL a’r Bartlett School of Architecture, wedi ei hariannu gan yr LAHP.
Cynhaliwyd ei harddangosfa unigol gyntaf ‘Kinnomics’ yng Nghanolfan Gelfyddydau Agnes Etherington yn 2025, ac yn ddiweddar mae wedi dangos gwaith yn Oriel Gray’s Wharf (Cernyw, 2024), Travelling Gallery (Gŵyl Gelfyddydau Caeredin, 2025) a Southcombe Barn (Dartmoor, 2025, 2024).