Pegwn
‘Language only happens when it is encountered; as such, all languages are in a state of rehearsal, revision and renewability.’ – Dylan Huw, artist and writer
Pegwn started life in 2020 as an informal series of online gatherings for artists and writers to consider the future of creative Welsh language practice and exchange views and experiences in a Cymraeg-led space. In collaboration with writer Dylan Huw and many other practitioners, Pegwn evolved into a platform for embedding imaginative and fluid approaches to Welsh language and multilingualism across Peak’s programming and structures.
Over the past six years, Pegwn has taken the form of talks, walks, workshops, publications, commissions and collaborative residencies – inviting artists and writers to work together and experiment with language and translation in the context of the Welsh Borders and Usk Valley.
Pegwn Timeline
2020
Pegwn, online gatherings for Welsh Language Futures, hosted by Peak Cymru, Dylan Huw and Esyllt Angharad Lewis.
2021
Storm Kitchen Responses, Welsh-language text commissions by Llinos Anwyl, Cerys Hafana and Dylan Huw with photography by Zosia Krasnowolska and Dafydd Williams.
Walking Backwards into the Future, Reading Group series including an artist commission by Esyllt Angharad Lewis.
ululations, translingual publication in response to Alberta Whittle’s Art Night commission hosted by Peak at Abergavenny Train Station; responses by Nia Morais, Kandace Siobhan Walker and fin Jordão, translation by Grug Muse, design by Mark El-khatib, edited by Dylan Huw/Peak team.
2022
Casgleb gatherings at Platfform 2, Abergavenny station, with Llinos Anwyl, Jenny Cashmore, Bob Evans, Dylan Huw, fin Jordão, Esyllt Angharad Lewis, Marva Jackson Lord, Nia Morais, Rowan O’Neill, Gwenllian Spink; publication edited by Dylan Huw.
2023
Pegwn Residency, Toyosi Adenuga, Platfform 2, Y Fenni Station
May Rain, Abergavenny Food Festival Community Feast commission by Gwenllian Spink with text by Dylan Huw.
2024
ymagor 1 publication, featuring commissioned poetry/writing from Morgan Owen, Renee Eshel and Toyosi Adenuga, designed by Mark El-khatib, printed by Biscuit Press, edited by Dylan Huw (launched at Book Space, Cardiff).
2025
Pegwn 2025: anastomosis, a residency programme guest curated by Casi Wyn. Participating artists Hedydd Ioan, Darya Williams, Larysa Martseva, Eddie Ladd, Owain McGilvary, Penny Hallas and Aur Bleddyn. Programme contributors: Hanan Issa, Dr Rebecca Voelcker and Alan Bowring. Translator: Iestyn Tyne.
‘Sut mae diffinio iaith? Cwestiwn anoddach na’r disgwyl, o ystyried bod pob iaith, pob dydd, mewn proses o gael ei ymarfer, ei addasu a’i adnewyddu: dydy iaith ddim yn bodoli tu allan i’r prosesau hyn.’ – Dylan Huw, artist a sgwennwr
Daeth Pegwn i’r byd yn 2020 fel cyfres anffurfiol o sgyrsiau arlein er mwyn creu gofod i artistiaid a sgwennwyr ystyried dyfodol ymarfer Cymraeg creadigol, gan gyfnewid barn a phrofiad mewn gofod Cymraeg ei hiaith. Mewn cydweithrediad â’r sgwennwr Dylan Huw a nifer o ymarferwyr eraill, esblygodd Pegwn yn blatfform ar gyfer defnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd dychmygus a hylifol ar draws holl rychwant rhaglen a strwythurau Peak.
Dros y chwe mlynedd diwethaf, mae Pegwn wedi bodoli ar ffurf sgyrsiau, teithiau cerdded, gweithdai, cyhoeddiadau, comisiynau a phreswylfeydd casglebol – gan wahodd artistiaid a sgwennwyr i gydweithio ac arbrofi gydag iaith a chyfieithu yng nghyd-destun y Gororau a Dyffryn Wysg.
Llinell Amser Pegwn
2020
Pegwn, cyfarfyddiadau arlein i drafod Dyfodolau’r Gymraeg, wedi eu harwain gan Peak Cymru, Dylan Huw ac Esyllt Angharad Lewis.
2021
Ymatebion Cegin y Storm, Comisiynau sgwennu gan Llinos Anwyl, Cerys Hafana a Dylan Huw gyda ffotograffiaeth gan Zosia Krasnowolska a Dafydd Williams.
Walking Backwards into the Future, Grŵp Darllen oedd yn cynnwys comisiwn artistig gan Esyllt Angharad Lewis.
ululations, Cyhoeddiad amlieithog oedd yn ymateb i gomisiwn Art Night Alberta Whittle wedi ei gyflwyno gan Peak yng Ngorsaf Drenau’r Fenni; daeth ymatebion gan Nia Morais, Kandace Siobhan Walker a fin Jordão, a chyfieithiad gan Grug Muse, dylunio gan Mark El-khatib, a golygu gan Dylan Huw/tîm Peak.
2022
Diwrnodau Casgleb ar Blatfform 2, gorsaf drenau’r Fenni, gyda Llinos Anwyl, Jenny Cashmore, Bob Evans, Dylan Huw, fin Jordão, Esyllt Angharad Lewis, Marva Jackson Lord, Nia Morais, Rowan O’Neill, Gwenllian Spink; golygwyd y cyhoeddiad gan Dylan Huw.
2023
Preswyliad Pegwn, Toyosi Adenuga, Platfform 2, Gorsaf Y Fenni
May Rain, Gwledd Gymunedol Gŵyl Fwyd Y Fenni, comisiynwyd gwaith celf gan Gwenllian Spink a thestun gan Dylan Huw.
2024
Cyhoeddiad ymagor 1, yn cynnwys comisiynau barddoniaeth/sgwennu gan Morgan Owen, Renee Eshel a Toyosi Adenuga, dyluniad gan Mark El-khatib, argraffwyd gan Wasg Biscuit, golygwyd gan Dylan Huw (lansiad yn Book Space, Caerdydd).
2025
Pegwn 2025: anastomosis, preswyliad dan ofalaeth ein curadwr gwadd Casi Wyn. Roedd Hedydd Ioan, Darya Williams, Larysa Martseva, Eddie Ladd, Owain McGilvary, Penny Hallas a Aur Bleddyn yn cymryd rhan fel artistiaid. Cyfranwyr at y rhaglen: Hanan Issa, Dr Rebecca Voelcker ac Alan Bowring. Cyfieithydd: Iestyn Tyne.