Announcing Pegwn Curator 2025
Cyhoeddi Curadur Pegwn 2025
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi mai ein curadur gwadd ar gyfer rhaglen Pegwn 2025 Peak yw’r bardd, y gyfansoddwraig a’r gantores, Casi Wyn.
Bydd Casi’n gweithio gyda ni dros y misoedd i ddod i siapio rhaglen breswyl datblygu artistiaid, a fydd yn cael ei chynnal yn y Mynyddoedd Duon ym mis Gorffennaf 2025 – dyma ofod i archwilio arfer artistiaid drwy safbwynt iaith.
Myfyrdod byr gan Casi:
“Mae hi'n bleser curadu rhaglen Pegwn eleni! Mae gan gymunedau Cymru gymaint i'w gynnig i'r byd - a'r byd gymaint i'w gynnig i Gymru. Dwi'n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda lleisiau unigryw ein cymunedau, yn rhai dinesig a gwledig, y rhai sy'n byw'n lleol a'r rhai sydd wedi ail gynefino'n rhyngwladol - gan fwynhau defnyddio ein mamiaith i angori a chysylltu'r cyfan.
Nid addurn ydi Cymraeg - ond iaith sy'n ysbrydoli ein gwaith a'n mwynhad, iaith naturiol sy'n llywio'r ffordd ydan ni'n symud drwy'r byd - iaith gelfydd sy'n annog creadigrwydd. Bydd hynny'n chwarae rhan ganolog yn ystod y preswyliad arbennig hwn - wedi ei gynllunio'n braf gyda thîm arbennig Peak Cymru.”
We’re thrilled to announce that our guest curator for Peak’s 2025 Pegwn programme is poet, composer and singer, Casi Wyn.
Casi will be working with us over the coming months to shape a residential artist development programme, taking place in the Black Mountains in July 2025 – a space to explore artist practice through the lens of language.
A short reflection from Casi:
“It’s a pleasure to be curating the Pegwn programme this year! The communities of Wales have so much to offer the world - and the world has so much to offer Wales. I’m looking forward to working with the unique voices of our communities, both urban and rural, those who live locally and those who have resettled internationally - enjoying using our mother tongue to anchor and connect it all.
Welsh is not an ornament - but a language which inspires our work and enjoyment, a natural language that guides the way we move through the world - an artistic language which encourages creativity. This will play a central part in this special residency - which has been beautifully planned with the special team at Peak Cymru.”
About Pegwn
Ynglŷn â Pegwn
Ers 2021, mae Pegwn wedi esblygu fel un o raglenni Peak a dyfodd mewn cydweithrediad â Dylan Huw, i gynnal llefydd a strwythurau amlieithog sy’n cael eu llywio yn y Gymraeg, tuag at ddychmygu ffyrdd o feddwl yn wahanol am ddyfodol iaith yng Nghymru. Drwy sgyrsiau, cyhoeddiadau, gweithdai a phreswylfeydd, mae Pegwn yn gwahodd artistiaid ac awduron i archwilio themâu iaith, cyfieithu, a chreu geirfa.
Since 2021, Pegwn has evolved as a Peak programme that grew in collaboration with Dylan Huw, to host Cymraeg-led, multilingual spaces and structures towards imagining ways of thinking differently about language futures in Wales. Through talks, publications, workshops and residencies, Pegwn invites artists and writers to explore themes of language, translation, and vocabulary-making.
About Casi's practice
Ynglŷn ag arfer Casi<
Mae cerddoriaeth Casi wedi cael ei pherfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinfonia Cymru, ac yn fwyaf diweddar, mewn cynhyrchiad theatr rhwng Theatr Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Dawns y Ceirw. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth ar y cyd â phlant ysgolion Cymru y llynedd, dan yr enw Bro Prydferthwch – ac yn fwy diweddar, cafodd ei chasgliad hi o farddoniaeth, Cariad Yw, ei gyhoeddi gyda Barddas. Casi yw Cyfarwyddwr Creadigol a Golygydd y cylchgrawn annibynnol, Codi Pais, a hi arweiniodd neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn 2024, gyda ffoaduriaid a oedd yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro a Llysgenhadon yr Urdd.
Casi’s music has been performed by the BBC National Orchestra of Wales, Sinfonia Cymru and most recently a theatre production between Theatr Cymru and National Dance Company Wales, Dawns y Ceirw. Her first collection of collaborative poetry with school children across Wales was published last year, titled Bro Prydferthwch – and more recently, her own collection of poetry, Cariad Yw , was published with Barddas. Casi is the Creative Director and Editor of independent Welsh magazine, Codi Pais and led the Urdd’s Peace and Goodwill message in 2024, with refugees studying at Cardiff and Vale College and Urdd Ambassadors.