The Old School Garden
Gardd Yr Hen Ysgol
In collaboration with young people, artists and local residents, we’ve begun to imagine a future garden for the former playground and car park of The Old School.
Since 2024, young people have worked alongside horticulturalists, artists, garden designers and community users of The Old School to explore, experiment and test different possibilities for the garden.
This work is inspired by a set of principles developed by Peak Peers alumni through workshops with Grand Union’s Jo Capper and market gardeners Tir Awen, which ask us to imagine that:
the garden will be a place to grow things we love
the garden will create community
the garden will be an artist studio
the garden will be a collaborator
the garden will not have any clocks
Through Peak’s 2024 Play/Ground programme, young people worked with artist Sahra Hersi, alongside Owen Griffiths and community users of The Old School, to develop visions for the site through collage, model-making and community consultation.
In 2024, we also began growing food on the site, led by local residents and gardener Eileen Williams-Sweet. Together, we grew and made food in temporary raised beds, gathering around shared harvest meals. Our Plot – a self-organising community growing space - continues to develop through fortnightly meetings.
In 2025, we began collaborating with Abergavenny-based garden designer Sarah Price to continue to shape this small but significant landscape, bringing together the ideas, creations and ways of working of young people and the local community into a sustainable, imaginative planting vision.
This project has been supported by The National Lottery Community Fund, Social Farms and Gardens, The Ashley Family Foundation, Powys Making a Difference Fund and The Oakdale Trust.
Mewn cydweithrediad â phobl ifanc, artistiaid a phreswylwyr lleol, rydym wedi dechrau dychmygu gardd i’r dyfodol ar gyfer yr hen iard chwarae a’r maes parcio yn Yr Hen Ysgol.
Ers 2024, mae pobl ifanc wedi bod yn gweithio ar y cyd â garddwriaethwyr, artistiaid, dylunwyr gerddi ac aelodau o’r gymuned leol yn Yr Hen Ysgol er mwyn archwilio, arbrofi a rhoi tro ar wahanol bosibiliadau ar gyfer yr ardd.
Caiff y gwaith hwn ei ysbrydoli gan gyfres o egwyddorion a ddatblygwyd gan gyn-aelodau o Peak Peers drwy gyfrwng gweithdai gyda Jo Capper o Grand Union a’r garddwyr marchnad Tir Awen, oedd yn gofyn ein bod yn dychmygu:
yr ardd fel gofod i dyfu pethau yr ydym yn eu caru
yr ardd fel gofod sy’n creu cymuned
yr ardd fel stiwdio artist
yr ardd fel cydweithiwr
gardd heb glociau
Drwy gyfrwng rhaglen Maes/Chwarae Peak yn 2024, bu pobl ifanc yn gweithio gyda’r artist Sahra Hersi, ar y cyd â Owen Griffiths ac aelodau o’r gymuned leol sy’n defnyddio’r Hen Ysgol i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y safle drwy gyfrwng collage, creu modelau ac ymgynghoriad cymunedol.
Yn 2024, dechreuom dyfu bwyd ar y safle, dan arweiniad preswylwyr lleol a’r garddwr Eileen Williams-Sweet. Gyda’n gilydd, buom yn tyfu a pharatoi bwyd mewn gwelyau llysiau dros dro, ac yn amgynnull i rannu prydau bwyd y cynhaeaf. Mae Ein Darn o Dir – gofod tyfu cymunedol sy’n cynnal eu hunain – yn parhau i ddatblygu wrth gwrdd bob pythefnos.
Yn 2025, dechreuom gydweithio gyda’r dylunydd gerddi Sarah Price sy’n byw yn Y Fenni, er mwyn parhau i siapio’r tirlun bychan ond arwyddocaol hwn, gan ddod â syniadau, creadigaethau a dulliau gweithio pobl ifanc a’r gymuned leol gyda’i gilydd er mwyn creu gweledigaeth cynaliadwy a dychmygus ar gyfer plannu.
Caiff y project hwn ei gefnogi gan Gronfa Cymuned y Loteri Genedlaethol, Social Farms and Gardens, Ymddiriedolaeth y Teulu Ashley, Cronfa Gwneud Gwahaniaeth Powys, ac Ymddiriedolaeth Oakdale.