Ellen Wilson
Co-Director: Young People & Programme
Ellen (she/her) has been a youth worker for 14 years, running projects for Young People facing intersecting barriers in London, Bristol and Newport. Recent roles include: Community Youth Worker for Newport Council, Peak Peers Curator 2023 and Youth Voice Coordinator for the Creative Youth Network in Bristol, where she ran the youth voice programme and supported LGBTQ+ Young People. She has a masters in applied anthropology and youth work from Goldsmiths and this research shapes how Ellen works with and in local communities. She is particularly interested in how Young People can effect change in the world through activism and collective creative practices.
Cyd-Gyfarwyddwr: Pobl Ifanc a Rhaglen
Mae Ellen (hi) wedi bod yn weithiwr ieuenctid ers 14 mlynedd, yn cynnal prosiectau i Bobl Ifanc sy’n wynebu rhwystrau croestoriadol yn Llundain, Bryste a Chasnewydd. Mae ei swyddi diweddar yn cynnwys: Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol i Gyngor Casnewydd, Curadur Cyfoedion Peak 2023, a Chydlynydd Llais Pobl Ifanc ar gyfer y Rhwydwaith Ieuenctid Creadigol ym Mryste, lle bu’n rhedeg y rhaglen llais pobl ifanc ac yn cefnogi Pobl Ifanc LHDTC+. Mae ganddi radd meistr o Goldsmiths mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith ieuenctid, ac mae’r ymchwil yma’n siapio’r ffordd mae Ellen yn gweithio gyda ac o fewn cymunedau lleol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y ffordd gall Pobl Ifanc greu newid yn y byd drwy ymgyrchu ac arferion creadigol ar y cyd.