Beverley Bennett
Beverley Bennett is an artist-filmmaker whose work revolves around the possibilities of drawing, performance and collaboration. Her practice is connected to multiple ways of making. The first of these is a concern with the importance of ‘gatherings’ to denote a methodology that differs from the more hierarchical model of the workshop; one person leading and sharing information with participants taking part in the activities. Instead 'gatherings' are cyclical, whereby everyone learns from each other and often formulate in myriad ways, from reading together to gathering at a party. This has created a 'tapestry of voices', an interweaving of communalities and differences that provide a broader view, an important part of amplifying intergenerational relationships. The second is an investigation of The Archive (often beginning projects by creating / adding to an extensive personal archive of interviews, using them for preliminary research and experimentation) and the third is collaboration. This is frequently through socially political work with other creatives, fine artists, community members, young children and their families. Her practice provides spaces for participants to become collaborators and provides a point of focus from where to unpick ideas around what constitutes an art practice and for whom art is generated.
Artist a gwneuthurwr ffilmiau yw Beverly Bennett ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar bosibiliadau arlunio, perfformio a chydweithio. Mae ei harfer yn gysylltiedig â sawl ffordd o greu. Mae’r gyntaf o’r rhain yn ymwneud â phwysigrwydd ‘cynulliadau’ i ddynodi methodoleg sy’n wahanol i fodel mwy hierarchaidd y gweithdy; un person yn arwain ac yn rhannu gwybodaeth gyda chyfranogwyr yn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Yn hytrach, mae ‘cynulliadau’ yn gylchol, lle mae pawb yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn aml yn ffurfio mewn myrdd o ffyrdd, o ddarllen gyda’i gilydd i ymgynnull mewn parti. Mae hyn wedi creu ‘tapestri o leisiau’, sef cydblethiad o gymunedau a gwahaniaethau sy’n rhoi golwg ehangach – rhan bwysig o ehangu cydberthnasau rhwng cenedlaethau. Mae’r ail yn ymchwiliad o’r Archif (yn aml yn dechrau prosiectau drwy greu / ychwanegu at archif bersonol helaeth o gyfweliadau, gan eu defnyddio ar gyfer ymchwil ac arbrofi rhagarweiniol) a’r drydedd yw cydweithio. Gwneir hyn yn aml drwy waith cymdeithasol wleidyddol gyda phobl greadigol eraill, artistiaid cain, aelodau o’r gymuned, plant ifanc a’u teuluoedd. Mae ei harfer yn darparu gofodau i gyfranogwyr ddod yn gydweithredwyr, ac yn darparu pwynt ffocws o ran rhannu syniadau ynghylch beth yw arfer celf ac ar gyfer pwy y caiff celf ei gynhyrchu.