Platfform 2 Commissions | 2024-25
Gwaith Comisiwn Platfform 2 | 2024-25
We’re excited to share an opportunity for an artist or collective, aged 18-30 years, living or working within an hour of Peak’s sites, to create artwork for the windows of Peak’s Platfform 2 spaces. This will be the third and final commission in the 2024-25 season, following Ffion William’s Cymraeg Ddrwg and Zeta Zentella’s Place of Transit, currently on display.
To shape the call-out, we’ve collaborated with writer and artist Kandace Siobhan Walker, who grew up in the nearby Welsh borders.
Wherever borders are drawn, openings are created. The struggle to define who and where we are can be transformative, altering our understanding of identity and place.
Why are borderlands so often regions of resistance, reclamation and renewal?
What unique cultural, linguistic and artistic forms have originated from borderlands?
What wild and strange possibilities, have emerged from this tension — and what else might?
Download the full guidelines below and please get in touch with cerian@peak.cymru if you have any questions, want to discuss an idea or get support with making an application.
The expression of interest is a short google form and we welcome other ways of submitting your idea (see guidelines).
Deadline for applications: 9am 14th April 2025
Rydyn ni’n falch o gael rhannu cyfle i gasgleb neu artist rhwng 18 a 30 oed, sy’n byw neu’n gweithio o fewn awr i safleoedd Peak, greu gwaith celf ar gyfer ffenestri gofodau Platfform 2 Peak. Dyma fydd y trydydd comisiwn, a’r comisiwn olaf, yn nhymor 2024-25, yn dilyn gwaith comisiwn Cymraeg Ddrwg gan Ffion Williams ac Ardal Tramwy gan Zeta Zentella, sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd.
I siapio’r alwad agored, rydyn ni wedi cydweithio gyda’r awdur a’r artist Kandace Siobhan Walker, a gafodd ei magu ar y gororau cyfagos.
Pan fydd ffiniau’n cael eu llunio, mae agoriadau’n cael eu creu. Mae’r frwydr i ddiffinio pwy a ble ydyn ni yn gallu bod yn drawsnewidiol, gan newid ein dealltwriaeth o hunaniaeth a lle.
Pam mae gororau yn aml yn safleoedd o wrthsafiad, adenilliad ac adnewyddiad?
Pa ffurfiau diwylliannol, ieithyddol ac artistig unigryw sydd wedi tarddu o ororau?
Pa bosibiliadau gwyllt a rhyfedd sydd wedi deillio o’r tensiwn yma — a beth arall allai godi ohono?
Lawrlwythwch y canllawiau llawn isod a chysylltwch â cerian@peak.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, os ydych chi eisiau trafod syniad, neu i gael cymorth i wneud cais.
Ffurflen Google fer yw’r mynegiant o ddiddordeb, ac rydyn ni’n croesawu ffyrdd eraill o gyflwyno’ch syniad (gweler y canllawiau).
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am 14 Ebrill 2025