Peak

Meet Peak’s new trustees
Dewch i adnabod ymddiriedolwyr newydd Peak

published on 01 Apr 2026

Meet Peak’s new trustees, we’re excited to be working with you over the coming years!

Jenny McConnel

Jenny works as a Sustainable Development Advisor at the Office of the Future Generations Commissioner for Wales, sitting across two mission areas: Implementation and Impact, and Health. Within the Health mission, she supports public bodies to address the wider environmental, cultural, economic, and social determinants of health, with a particular focus on food systems. Jenny recently completed a CPD module on the Public Policy of Food at St George’s University, City.  

Jenny has a strong background in social research and policy, having previously worked as a consultant at Miller Research, as an Accredited Parliamentary Assistant at the European Parliament, and as a Place Programme Manager at Renaisi, where she developed experience in systems and place-based approaches to social change.  

 In her trustee role, Jenny brings expertise in sustainable development, systems thinking, and policy implementation, alongside practical experience in supporting organisations and translating legislation into action for the benefit of communities. Outside work, Jenny enjoys hiking in the Bannau Brycheiniog and learning languages.

Korina Tsioni

Korina brings a strong commitment to social justice and innovation in learning, alongside extensive experience as a youth worker. She is an advocate for the transformative power of art and self-expression and is passionate about building a world where we can grow more connected communities.  

She is the Programme Lead for the Future Generations Leadership Academy, which supports 18–30-year-olds in taking action for future generations. Korina is also musician and a dancer and runs multicultural events alongside related consultation work. She loves cooking and gardening and exploring nature with her dog.  

Tom Bullough

Tom Bullough grew up, mostly, on a hill farm in Radnorshire. He is the author of four published novels and the nonfiction book Sarn Helen: a Journey Through Wales, Past, Present and Future, which won the 2024 Wales Book of the Year and the 2023 Waterstones Welsh Book of the Year. He is also a screenwriter who recently co-write the 2025 feature film Mr Burton and is currently developing a screenplay for the Cardiff-based production company Severn Screen. 

Tom has held fellowships at Swansea University and the University of South Wales, where he completed his PhD in 2014, A Divided Identity: Representing Radnorshire and the Welsh Borders in Fiction. Tom’s next novel, set in 6th-century Wales and Ireland, will be published by Granta Books in 2027.  

A passionate advocate for action on the climate and ecological emergency, Tom brings to Peak creativity, storytelling and a commitment to encouraging people to create from their own places, realities and experience. He lives in Bannau Brycheiniog with his two children and a collie named Wyn. 

Judith Musker Turner

Judith is passionate about putting arts, culture and the Welsh language at the heart of social, economic and environmental justice in Wales.  

She works as the Climate Action Programme Lead at the National Library of Wales, supporting the culture sector to take a leading role in responding to the climate and nature emergencies. Previously, Judith spent eight years working at the Arts Council of Wales (ACW), most recently leading on the Creative Nature Partnership with Natural Resources Wales, including the Future Wales Fellowship, and developing and delivering ACW’s first Plan for Climate Justice and the Arts. 

Judith brings to Peak deep expertise in culture-led climate action and collaborative partnership working, alongside creative insight as a practising artist and poet. She is currently studying at the Carmarthen School of Art and lives in rural mid Wales. Through her creative practice she explores what it means to know a place, and how art can help us to engage with alternative systems of knowledge which may offer pathways to a sustainable future. 

Dewch i adnabod ymddiriedolwyr newydd Peak, edrychwn ymlaen i gydweithio gyda chi dros y blynyddoedd i ddod!

Jenny McConnel

Ymgynghorydd Datblygu Cynaliadwy yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw Jenny, yn gweithredu ar draws dau faes: Gweithredu ac Effaith, a Iechyd. O fewn maes Iechyd, mae hi’n cefnogi cyrff cyhoeddus i fynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd sy’n cynnwys rhai amgylcheddol, diwylliannol, ac economaidd, gan roi sylw penodol i systemau bwyd. Cwbhlaodd Jenny fodiwl CPD yn ddiweddar ar Bolisi Cyhoeddus Bwyd ym Mhrifysgol St George, City (Llundain).

Mae gan Jenny brofiad helaeth ym maes ymchwil a pholisi cymdeithasol, wedi cyfnod yn gweithio fel ymgynghorydd ym Miller Research, fel Cynorthwyydd Seneddol Achrededig yn Senedd Ewrop, ac fel Rheolwr Rhaglen Lle yn Renaisi, lle y bu’n datblygu ei phrofiad gyda systemau a dulliau safle-benodol o fynd i’r afael â newid cymdeithasol.

Yn ei rôl fel ymddiriedolwr, mae Jenny’n cynnig arbenigedd o ran datblygiad cynaliadwy, meddwl am systemau, a gweithredu polisi, ynghyd â phrofiad ymarferol o gefnogi sefydliadau a throi deddfwriaeth yn weithgarwch er lles cymunedau. Tu hwnt i’r gwaith, mae Jenny’n mwynhau mynydda yn y Bannau a dysgu ieithoedd.

Korina Tsioni

Mae Korina yn bleidiol dros gyfiawnder cymdeithasol ac arloesedd dysgu, ac mae’n dod â’i phrofiad helaeth fel gweithiwr ieuenctid at fwrdd Peak. Mae hi’n llysgennad dros bŵer trawsffurfiol celf a hunanfynegiant, ac yn angerddol dros adeiladu byd lle y gallwn dyfu cymunedau mwy cysylltiedig.

Hi yw Arweinydd Rhaglen Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n cefnogi unigolion rhwng 18-30 oed i weithredu er lles cenedlaethau’r dyfodol. Mae Korina hefyd yn gerddor a dawnsiwr ac yn cynnal digwyddiadau amlddiwylliannol ar y cyd â gwaith ymgynhgorol cysylltiedig. Mae hi wrth ei bodd yn coginio, garddio a darganfod byd natur gyda’i chi.

Tom Bullough

Magwyd Tom Bullough ar fferm fynydd yn Sir Faesyfed, gan fwyaf. Mae’n awdur pedair nofel cyhoeddedig ac un llyfr ffeithiol, Sarn Helen: a Journey Through Wales, Past, Present and Future, a enillodd Wales Book of the Year 2024 a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones 2023. Mae hefyd yn gweithio fel sgriptiwr, gan gyd-ysgrifennu ffilm Mr Burton ddaeth allan y llynedd, ac ar hyn o bryd mae’n datblygu sgript ffilm ar gyfer cwmni cynhyrchu Severn-Screen, Caerdydd.

Mae Tom wedi bod yn gymrawd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, lle y cwblhaodd ei ddoethuriaeth yn 2014, A Divided Identity: Representing Radnorshire and the Welsh Borders in Fiction. Bydd nofel nesaf Tom, wedi ei lleoli yng Nghymru ac Iwerddon y 6ed ganrif, yn cael ei chyhoeddi gan Granta Books yn 2027.

Yn llysgennad angerddol dros ymgyrchu er lles yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol, mae Tom yn cynnig creadigrwydd, dawn y cyfarwydd ac ymrwymiad i annog pobl i greu o fewn eu milltir sgwâr, eu realiti, a’u profiadau eu hunain. Mae’n byw ym Mannau Brycheiniog gyda’i ddau blentyn a chi defaid o’r enw Wyn.

Judith Musker Turner

Mae Judith yn angerddol dros osod y celfyddydau, diwylliant a’r iaith Gymraeg wrth galon yr ymgyrch dros gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru.

Mae hi’n gweithio fel Arweinydd Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gefnogi’r sector diwylliannol i arwain y gad wrth ymateb i argyfyngau hinsoddol a naturiol. Bu Judith yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am wyth mlynedd, yn arwain gan fwyaf ar y Bartneriaeth Natur Greadigol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, a datblygu a chyflwyno Cynllun cyntaf Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau.

Daw Judith ag arbenigedd dwfn i Peak o ran gweithredu diwylliannol er lles yr hinsawdd, a gweithio’n gydweithredol ar draws partneriaethau, ynghyd â’u mewnwelediad creadigol fel artist a bardd yn ei hawl ei hun. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio yng Ngholeg Celf Caerfyrddin ac yn byw yng nghefn gwlad y canolbarth. Drwy ei hymarfer creadigol mae hi’n archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i adnabod lle, a sut y gall celf ein cynorthwyo i ymgysylltu gyda systemau gwybodaeth a all gynnig llwybrau i ni tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Related
Perthnasol